My Account Login

Dull cymunedol cost isel o atal afiechyd

Ym mlog y mis hwn, mae Dr Hilary Williams yn tynnu sylw at dri chynllun cost isel lleol lle mae staff a chleifion y GIG wedi cefnu ar strwythurau beichus o’r brig i lawr y GIG a chanolbwyntio ar atal.

Mae atal yn cael lle blaenllaw mewn polisïau iechyd ar hyn o bryd, ond yr hyn a glywn yn fuan iawn ar ôl hyn yw ‘does dim arian, ac mae gofal acíwt yn llyncu’r gyllideb’. Felly, roeddwn yn awyddus i dynnu sylw at dri chynllun cost isel lleol lle mae staff a chleifion y GIG wedi cefnu ar strwythurau beichus o’r brig i lawr y GIG a chanolbwyntio ar atal. Yr hyn sy’n gyffredin i bob un o’r prosiectau hyn yw dull cymunedol pragmatig iawn – annog ymwybyddiaeth o iechyd ym mhobman, o salonau harddwch i fosgiau, a’r ymweliad rheolaidd â’r deintydd. 

Hyd yn oed os yw pethau’n anodd ar y stryd fawr, rwy’n cael y teimlad ein bod yn treulio mwy o amser mewn siopau trin gwallt, siopau barbwr, a salonau harddwch, felly fe wnaeth Clare Small o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wahodd arbenigwyr o’r diwydiant harddwch lleol i Ganolfan Ôl-raddedigion Ysbyty Brenhinol Gwent, er nad yw’n lleoliad y byddai rhywun yn ei gysylltu â harddwch, er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd ymwybyddiaeth o’r haul drwy addysgu ynglŷn â hanfodion adnabod canser y croen. Daeth 68 o unigolion lleol ynghyd, ac roedd y pynciau trafod yn cynnwys sut i adnabod canser y croen ar y dwylo a’r traed, gan nodi’r gwahaniaethau rhwng briw cennog a melanoma, a seicoleg cael sgwrs ynglŷn â chanser. I gloi’r cyfarfod cafwyd cwis am hybu iechyd, a dywedodd llawer o’r rhai a ddaeth ynghyd eu bod am gael golwg ar wefan CoppaFeel, elusen sy’n codi ymwybyddiaeth o ganser y fron. Gofynnwyd am adborth, ac roedd un ymateb calonogol yn dweud, ‘Diolch am ein cynnwys yn yr ymdrech bwysig yma. Rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan a chefnogi eich ymdrechion i godi ymwybyddiaeth a meithrin cymuned iachach’. Mae’r digwyddiad yn costio tua £10 y pen, ac mae rhagor o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio ar gyfer y dyfodol. Derbyniwyd ceisiadau am hyfforddiant ymwybyddiaeth o’r haul gan staff meithrinfeydd mewn ardaloedd difreintiedig, ynghyd â chartrefi nyrsio lleol. 

Gan aros ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae Dr Fidan Yousuf a’r Tîm Hepatoleg yn teimlo bod ganddynt ddyletswydd gofal go iawn i godi ymwybyddiaeth o achosion ac effeithiau clefyd yr afu/iau yn eu poblogaeth leol. Mae Fi yn dweud wrthym bod gordewdra a chlefyd yr afu brasterog wedi cynyddu 10 gwaith cymaint yn ystod y degawd diwethaf, ond gan nad oes llawer o symptomau i’w gweld tan y camau datblygedig, mae canfod achosion yn gynnar a sgrinio yn hollbwysig. Mae tuedd i gymunedau lleol a staff stigmateiddio ffactorau risg megis gordewdra, yfed gormod o alcohol a firysau sy’n cael eu cludo yn y gwaed. Mae Fi yn disgrifio hyn yn fanylach yn ei blog, ond fel oncolegydd roedd gen i ddiddordeb mawr yn y gwaith maen nhw’n ei wneud drwy fynd allan i fosgiau a chanolfannau cymunedol i godi ymwybyddiaeth o glefyd yr afu mewn grwpiau a allai fod â mwy o risg o ddatblygu canserau pibell y bustl. Rwy’n siŵr nad cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith fod pob hyfforddai rydw i wedi ei gyfarfod sydd wedi gweithio gyda’r tîm yma yn dweud ei fod wrth ei fodd â’r gwaith ac y byddai’n hoffi cael gyrfa ym maes hepatoleg yn y dyfodol. 

Roeddwn hefyd yn awyddus i dynnu sylw at rôl Brian Webber, claf rhif un treial canser y pen a’r gwddf PEARL yng Nghanolfan Ganser Felindre. Deintydd oedd Brian cyn iddo ymddeol, ac er bod deintyddion yn ymwybodol o arwyddion canser y geg, mae Brian wedi mynd gam ymhellach drwy geisio gwella dealltwriaeth deintyddion dan hyfforddiant o gymhlethdodau’r llwybr triniaeth diagnostig, a phwysigrwydd treialon clinigol, a’u helpu i ddeall canlyniadau hirdymor triniaeth ganser ar geudod y geg, yn y tymor byr a’r tymor hir. Gallwch ddarllen adroddiad ITV ar-lein

Mae polisi iechyd cyhoeddus da yn dwyn ffrwyth – does dim ond angen i chi edrych ar y dreth siwgr a’r terfyn cyflymder o 20mya yng Nghymru – ond mae tystiolaeth dda hefyd ar gyfer dull gweithredu sy’n rhoi cymunedau yn gyntaf. Bob wythnos, rwy’n cyfarfod pobl sydd wedi cael anhawster i ganfod eu ffordd drwy system gofal iechyd gymhleth, neu i ddeall a oes angen iddynt fynd i weld rhywun ynglŷn â newidiadau yn eu corff ai peidio (canmoliaeth unwaith eto i Ms Cornish a’r sesiwn yng Ngŵyl Everywoman ynglŷn â sut i gael y budd mwyaf o apwyntiad gyda meddyg teulu). 

Hoffwn orffen drwy argymell deunydd darllen. Mae’r Athro Kate Brain ym Mhrifysgol Caerdydd wedi arwain llawer o waith i geisio deall sut mae cymunedau yn dylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn chwilio am wybodaeth am iechyd, ac yn cymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio. Mae Empowering healthy communities and individuals yn dda iawn, ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd ‘llythrennedd iechyd’ a sut mae gwahanol genedlaethau yn chwilio am wybodaeth – mae’n dda gwybod bod Cenhedlaeth Z yn dal i ymddiried mewn meddygon. 

Mae angen i’n gweithlu ddefnyddio eu profiad a’u talentau eu hunain i sicrhau’r newid y mae arnom ei angen. Os oes gennych syniad da, cadwch lygad ar raglenni grantiau’r RCP. 

Byddai’r tîm yn RCP Cymru yn falch iawn o gael gwybod mwy ynglŷn â beth rydych chi’n ei wneud er mwyn gwella gwasanaethau yn eich bwrdd iechyd. Cysylltwch â Wales@rcp.ac.uk

View full experience

Distribution channels: Healthcare & Pharmaceuticals Industry